Arwyddair | In Dei nomine feliciter |
---|---|
Math | prifysgol |
Enwyd ar ôl | Radboud of Utrecht |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Nijmegen |
Sir | Nijmegen |
Gwlad | Yr Iseldiroedd |
Cyfesurynnau | 51.81944°N 5.86528°E |
Prifysgol gyhoeddus a leolir yn Nijmegen, dinas hynaf yr Iseldiroedd, yw Prifysgol Radboud Nijmegen (Iseldireg: Radboud Universiteit Nijmegen).
Sefydlwyd Prifysgol Gatholig Nijmegen (Katholieke Universiteit Nijmegen) ar 17 Hydref 1923, i annog mwy o Babyddion i hyfforddi yn y gyfraith, meddygaeth, a llywodraeth. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd cafodd ei chau am fod pennaeth y brifysgol yn gwrthod gorfodi'r myfyrwyr i ddatgan eu ffyddlondeb i'r awdurdodau Almaenig. Cafodd y ddinas ei bomio ar gam gan luoedd Americanaidd ym 1944, gan ddinistrio nifer o adeiladau'r brifysgol. Wedi'r rhyfel, symudwyd adrannau'r brifysgol i gampws newydd ar ystad Heyendaal. Newidiodd ei henw' yn 2004 i Brifysgol Radboud Nijmegen, i bwysleisio'r cysylltiad rhwng y brifysgol ac ysbyty Radboud, a enwir ar ôl Radboud, Esgob Utrecht yn y 10g.
Ymhlith ei chyn-fyfyrwyr mae pedwar o Brif Weinidogion yr Iseldiroedd: Louis Beel, Jo Cals, Victor Marijnen, ac Dries van Agt. Yn 2010, dyfarnwyd Gwobr Ffiseg Nobel i ddau o athrawon y brifysgol, Andre Geim a Konstantin Novoselov, am eu hymchwil i sylwedd graffen.